Elin Alaw - Homeopath

MSc Homeopatheg, LicWSHom

(+44) 7989 491 417

 

 

Mae Elin yn homeopath cymwys sy'n gweithio yng Ngogledd Cymru a thrwy gyswllt fideo.  Mae ganddi dros ddegawd o brofiad ac ymroddiad yn y maes, a hynny drwy ei chlinigau preifat, drwy diwtora mewn colegau a thrwy fynychu hyfforddiant ôl-radd cyson.

 

Homeopatheg ydi'r enw am y system o feddyginiaeth mae Elin yn ei hymarfer.  O fewn y driniaeth, mae pedwar prif egwyddor ar waith, sef y gall tebyg wella'i debyg, fod y darlun llawn yn hollbwysig, fod yn rhaid trin pob person fel unigolyn ac mai'r ddôs leiaf bosib sydd fwya'i dylanwad.

 

Homeopath ydi'r gair sy'n disgrifio person proffesiynol fel Elin sydd wedi hyfforddi - fel arfer am bedair blynedd - yn y wyddor a'r grefft o roi'r athroniaeth uchod ar waith.

 

Homeopathig ydi'r ansoddair sy'n bosib ei ddefnyddio pan fydd claf a'i remydi yn adlewyrchu ei gilydd i'r dim.  Er mwyn dewis meddyginaieth addas , mae homeopath yn gwrando ac yn sylwi'n fanwl ar natur y claf cyn cynnig remydi sy'n ddrych i'w egni fo neu hi.

 

Gellir darllen mwy am homeopatheg yn yr adran blog.

 

 

Clinigau Cyfredol:   Melin y Coed & Cyswllt Fideo